Page 37 - Gŵyr Bryntawe 6th Form Prospectus 2022
P. 37

    Hanes
History
Pam astudio Hanes?
• Ein nod yw rhoi mwynhad a chynyddu diddordeb y myfyrwyr yn Hanes, a rhoi sylfaen gadarn iddynt, pe dymunent, ar gyfer astudiaeth bellach o’r pwnc.
• Mae Hanes yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fel pwnc academaidd. Profa i gyflogwr bod y myfyriwr yn gallu delio’n effeithiol â chorff sylweddol o wybodaeth a gwneud synnwyr ohono.
• Mae’r pwnc yn sylfaen dda ar gyfer nifer o gyrsiau addysg uwch ac i yrfaoedd megis bancio, y gyfraith, newyddiaduraeth, dysgu a darlledu.
• Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo'i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau'r byd sydd ohoni.
Beth yw cynnwys y cwrs?
Rhennir y cwrs yn dair rhan:
• Agweddau ar Hanes Cymru a Lloegr c.1780-1880
• Yr Almaen 1918-45
• Canrif yr Americanwyr, 1890-1990
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu megis gwersi traddodiadol, seminarau, gwaith grŵp, gwaith annibynnol, darlithoedd gan siaradwyr gwadd a threfnir ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb. I astudio Hanes, rhaid cael gradd C ac yn uwch ar lefel TGAU.
Why Study History?
• Our aim is to provide enjoyment and increase students’ interest in History and, if they so wish, to prepare them for further study of the subject.
• History is generally acknowledged as an academic subject. A good grade in History shows employers that the candidate can deal effectively with a substantial body of information and comprehend it.
• The subject is a good foundation for many further education courses and for careers in banking, law, journalism, teaching and broadcasting.
• Not only is the study of the past absorbing in itself, but it also provides insights into events occurring in our world today.
What is the course content?
The course is divided into three parts:
• Aspects of the History of Wales and England c.1780-1880
• Germany c.1918-45
• The American Century c 1890 - 1990
We use a variety of teaching methods which include traditional teacher led lessons, seminars, group work, individual research, guest lectures, and visits to historical places of interest. A grade C and above is required in GCSE History.
   Unedau
Cynnwys
Asesu
Uned 1
Gwleidyddiaeth, Protest a Diwygio yng Nghymru a Lloegr, 1780-1880
Arholiad
Uned 2
Yr Almaen: Democratiaeth ac Unbennaeth 1918-1945 Weimar a’i Heriau, 1918-1933
Arholiad
Uned 3
Canrif yr Americanwyr, 1890-1990 Brwydro dros Hawliau Sifil Ffurfio Pŵer Mawr
Arholiad
Uned 4
Yr Almaen: Democratiaeth ac Unbennaeth 1918-1945 Yr Almaen Natsiaidd, 1933 -1945
Arholiad
Uned 5
Ymholiad hanesyddol yn astudio dehongliadau gwahanol o bwnc penodol
Asesiad diarholiad
      Units
Contents
Assessment
Unit 1
Politics and government in Wales and England, 1780-1880
Examination
Unit 2
Germany: Democracy to Dictatorship 1918- 1945 Weimar and it’s Challenges, 1918 -1933
Examination
Unit 3
The American Century, 1890-1990 The Struggle for Civil Rights Making of a Superpower
Examination
Unit 4
Germany: Democracy to Dictatorship 1918- 1945 Nazi Germany, 1933-45
Examination
Unit 5
Non –examination assessment investigating an historical debate
Non – examination assessment
                            34






































   35   36   37   38   39