Page 26 - Gwyr Prospectus 2022-23
P. 26

 Gorchestion Arbennig
Llwyddiant Academaidd
Mae canlyniadau TGAU a Safon A yr ysgol yn flynyddol, yn rhoi’r ysgol gyda’r gorau yng Nghymru. Mae myfyrwyr yn mynd yn aml i Prifysgolion Grŵp Russell ynghyd a Brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen i ddilyn cyrsiau amrywiol.
NACE
Enillwyd y Wobr Her fawreddog NACE Cymru ar gyfer Disgyblion Mwy Galluog a Thalentog yn Mawrth 2015. Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn un o 31 ysgol yng Nghymru i dderbyn y wobr. Cyflwynir y Wobr Her ar gyfer gwaith o ansawdd uchel gan yr ysgol gyfan, athrawon a llywodraethwyr, wrth herio pob disgybl, gan gynnwys y rhai gyda galluoedd uchel, i gyflawni eu gorau.
Buddsoddwyr Mewn pobl
Derbyniodd yr ysgol y marc ansawdd pwysig hwn sydd yn dangos bod yr ysgol yn rhoi pobl y sefydliad yng nghanol ei gweithgarwch.Mae ymrwymiad clir gan yr ysgol i hyfforddianta datblygiad proffesiynol ei staff.
Statws Ysgol Ddyslecsia Gyfeillgar
Derbyniodd yr ysgol Statws Dyslecsia Gyfeillgar am yr arfer ardderchog a welir yn y dosbarth i gefnogi’r disgyblion. Yn yr adroddiad Estyn diwethaf, canmolwyd yn benodol cynnydd ardderchog disgyblion dyslecsig yn yr ysgol.
Chwaraeon
Cydnabuwyd gwaith allwyddiannau cyson yr ysgol mewn chwaraeon addysg gorfforol a hamdden pan enillwyd gwobr SportsMarc Cymru. Yn flynyddol gwelir timau acunigolion yn llwyddiannus yn sirol ac yn genedlaethol. Yn gynrychioli Cymru mewn nifer ogampau gan gynnwys rygbi, criced, pêl-droed, hoci, athletau, gymnasteg, marchogaeth, beicio,nofio, karate, bocsio, syrffio, achub bywyd ahwylio.
Siarad Cyhoeddus
Mae timoedd siarad cyhoeddus wedi ennill amryw gystadleuaeth gyda’r Rotari ac yn flynyddol cafwyd llwyddiant yng ngystadleuaeth yr Urdd.
Ysgol sy’n Parchu Hawliau
Rydym fel ysgol yn gweithio tuag at statws Lefel 1 y wobr ‘Ysgol sy’n Parchu Hawliau’. Datblygiad yw hwn a hyrwyddir gan Sir Abertawe yn gysylltiedig ag UNICEF. Mae’r wobr yn cydnabod ymroddiad ysgolion tuag at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant ac sy’n ei osod yn graidd i gynlluniau, polisïau, ethos a gweithredoedd yr ysgol. Bydd yr ysgol felly yn mynd ati i addysgu disgyblion yr ysgol am y Confensiwn drwy gyfres o weithgareddau ac ymgyrchoedd yn ystod y flwyddyn.
Ysgol Iach
Cynhadledd yr ysgolion cynradd Ysgol Iach Bwriad y Cynllun Ysgolion Iach yw hybu ac amddiffyn iechyd corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant a hybu lles pobl ifanc. Mae’r ysgol wedi llwyddo i gyrraedd y pumed cam yn y cynllun. Rydym yn gweithio tuag at y Wobr Ansawdd Cenedlaethol sy’n dangos ymrwymiad yr ysgol gyfan i faterion iechyd.
Gwobr Undeb Rygbi Cymru – Ysgol Rygbi
Yn 2014, derbyniodd yr ysgol Wobr Ysgol Rygbi gan Undeb Rygbu Cymru. Mae'n wobr genedlaethol sy’n cydnabod yr ymrwymiad o fewn yr ysgol a'r ardal gyfagos i hyrwyddo rygbi.
Tîm Peirianneg y Chweched Dosbarth
Am dros deng mlynedd mlynedd mae tîm peirianneg yr ysgol wedi bod yn llwyddiannus yn ennill gwobrau yng nghystadleuaeth Cynllun Addysg Peirianneg Cymru. Wrth weithio a derbyn cefnogaeth gref gan ein partneriaid diwydiannol sef Schaeffler ( UK) Ltd, Calsonic Kansei Europe a Eddyfi Technologies UK Ltd mae myfyrwyr wedi elwa llawer o’r profiad a datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o beirianneg.
             23













































































   24   25   26   27   28