Page 4 - Gŵyr Bryntawe 6th Form Prospectus 2022
P. 4

Croeso
 Mae’n bleser gennym gyflwyno Prosbectws Chweched Dosbarth Partneriaeth Gŵyr | Bryn Tawe i chi.
Rydym yn ail annog i’w darllen yn drwyadl wrth i chi ystyried eich opsiynau am y ddwy flynedd nesaf.
Rydym mor ymwybodol o’n pwysigrwydd fel ysgolion 11-18lle gall disgyblion ddychwelyd i’r Chweched dosbarth gan wybod bod y gefnogaeth fugeiliol sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn, yn parhau i’w cefnogi am y ddwy flynedd nesaf.
Wrth i ddisgyblion dychwelyd i’r chweched byddwn yn parhau i sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial, yn parhau i fynu’r safonau uchaf wrth adeiladuar y berthynas ddatblygwyd dros y blynyddoedd. Mae prosesau grymus yr ysgolion yn sicrhau y bydd yr ysgol yn cysylltu a rhieni os na fydd gwaith yn cael ei gyflawni, byddwn yn sicrhau nad yw unrhyw fyfyrwyr yn mynd drwy’r rhwyd. Dyna yw ein cryfder.
Mae llwyddiant diweddar myfyrwyr y Bartneriaeth yn ennill llefydd yn y Prifysgolion gorau yn cynnwys Rhydygrawnt yn adlewyrchiad o’r safonau academaidd uchaf sy’n bodoli ar draws y ddwy ysgol.Llwyddodd pob plentyn i symud ymlaen i Brifysgol neu i Brentisiaeth neu gyflogaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r Bartneriaeth yn fodd i chi fanteisio ar fwy o ddewis o gyrsiau ac elwa o amrywiaeth helaeth o adnoddau a lefel uchel o arbenigedd. Ceir hefyd gyfle cyffrous i chi ddatblygu ymhellach o fewn cymhwyster gwerthfawr y Fagloriaeth Gymreig.
Yn ogystal â rhoi’r cyfle i gamu ymlaen at goleg, prifysgol neu at swydd, bydd Partneriaeth Gŵyr | Bryn Tawe yn rhoi’r cyfle unigryw i chi gymdeithasu gyda ffrindiau, hen a newydd, ac i fanteisio ar gyfoeth o weithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Ond yn fwy na hynny, cewch gyfle i barhau gyda’ch astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac i elwa wrth gyfrannu at gymuned ddwyieithog Dinas a Sir Abertawe a thu hwnt.
Gobeithiwn y byddwch yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd fydd ar gael ac i fod yn rhan o lwyddiant Partneriaeth Chweched Dosbarth Gŵyr | Bryn Tawe.
Mr Dafydd Jenkins
Pennaeth/ Headteacher Ysgol Gyfun Gŵyr
                               1
 






















































































   2   3   4   5   6