Page 8 - Gwyr Prospectus 2022-23
P. 8

   “Clod i’r staff am eu cymorth a’u cefnogaeth effeithiol, eu haddysgu a’u sgiliau bugeiliol, eu caredigrwydd cyffredinol ac ymroddiad holl staff yr ysgol.”
Gofal Bugeiliol
Prif nod y drefn fugeiliol yw diogelu’r sylw angenrheidiol i bob unigolyn er mwyn sicrhau ei les a’i hapusrwydd yn yr ysgol. Y Tiwtor Dosbarth sy’n dod i gysylltiad â’r disgyblion rhan amlaf ac felly mae iddo/i ran allweddol yn y gofal arbennig iawn hwn. Teimlir ei fod yn bwysig fod gan bob disgybl rywun yn yr ysgol y gall ymddiried ynddo/i a throi ato/i i drafod unrhyw agwedd ar fywyd ysgol neu broblemau personol. Fel rhan o’r drefn fugeiliol caiff bob plentyn gyfle penodol i gael sgwrs personol gyda’i Diwtor Dosbarth yn gyson. Caiff gyfle felly i drafod unrhyw broblemau neu anawsterau sy’n codi ac sy’n achosi gofid. Atgyfnerthir gwaith y Tiwtor Dosbarth gan Bennaeth Cynnydd y Flwyddyn,y Penaethiaid Cynorthwyol, y SwyddogYmddygiadol a Chynghorydd yr ysgol. Y Swyddog Amddiffyn plant yw Mr Jeffrey Connick. Mae’r ysgol yn dilyn trefniadau “Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008”. Fel rhan o’r trefniadau, mae dyletswydd ar yr ysgol i gysylltu yn syth ag asiantaethau allanol o dro i dro. Am fanylion neu gopi o’r polisi, cysylltwch â’r ysgol.
Rydym yn cefnogi strategaeth sirol a rhyngwladol o'r enw Arfer Adferol. Nod y strategaeth hon yw meithrin ymagwedd gadarnhaol at gamymddygiad ac i wneud disgyblion i deimlo'n well amdanynt eu hunain o fewn cymuned yr ysgol. Cyflawnir hyn yn rhannol gan gyfleoedd wythnosol yn ystod sesiynau bore bugeiliol lle mae pobl ifanc a'r tiwtor dosbarth yn rhannu teimladau a barn.
Mae gan yr ysgol gwricwlwm bugeiliol pendant a neilltuir amser penodol ar gyfer hwn. Mae’n rhoi cyfle i drafod materion yn ymwneud â bywyd personol a chymdeithasol yr unigolyn, gan gynnwys perthynas â phobl eraill, addysg iechyd, gyrfau, sgiliau astudio a chyfathrebu. Rhan naturiol a phwysig o’r gwersi hyn hefyd yw Addysg Ryw.
Amcanion Penodol Polisi Addysg Rhyw yr Ysgol:
• Cyflwyno a thrin yr holl faterion sy’n gysylltiedig â rhyw mewn ffordd sensitif a gofalgar.
• Rhoi’r cyfle i’r disgyblion gael gwybodaeth ffeithiol am eu cyrff a’r prosesau sy’n gysylltiedig â rhyw – fel blaenlencyndod, atalgenhedlu,
erthylu, AIDS a chlefydau a drosglwyddir yn rhywiol.
• Gwneud hynny o fewn cyd-destun perthynas gariadus a gofalgar o gyfrifoldeb personol,o hunan-barch a pharch at eraill.
Rhai Unedau Penodol Addysg Rhyw:
• Dechrau fy mywyd
• Newidiadau’r corff
• Pwysau cyfoedion
• Atalcenhedlu
• Afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol
• Cenhedlu, tyfiant a genedigaeth babi
• Ffurfio perthynas
• Gofal am ffrindiau a chariadon
• Cancr – y fron, y groth a’r ceilliau
• Bod yn rhiant
 Adroddiad Arolwg Estyn 2015
Mae ethos arbennig yn perthyn i’r ysgol sy’n adlewyrchu’r arwyddair ysgol ‘Gorau byw, cyd-fyw’. Mae’n gymuned hapus, cartrefol a gofalgar gydag ethos cynhwysol lle caiff pob disgybl gyfleoedd cyfartal i lwyddo. Nodwedd ragorol yw’r modd y mae’r ysgol yn llwyddo i sicrhau ethos o ddisgwyliadau uchel, ymddiriedaeth a chefnogaeth ymhlith staff, disgyblion a’r rhieni.
 5
 










































































   6   7   8   9   10